Neidio i'r cynnwys

Aoraki

Oddi ar Wicipedia
Aoraki
Edit this on WikidataEdit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.595°S 170.1419°E 
Rhiant gopaMount Erebus 
golygwch ar Wicidata]

Aoraki neu Mynydd Cook (Saesneg:Mount Cook) yw'r mynydd uchaf yn Seland Newydd.[1] Mae Aoraki yn gopa yn Yr Alpau Deheuol, cadwyn o fynyddoedd sy'n rhedeg i lawr yr arfordir gorllewinol Ynys y De, Seland Newydd. Yn gyrchnod poblogaidd gan dwristiaid, mae'r mynydd hefyd yn sialens i ddringwyr. Mae Rhewlif Tasman a Rhewlif Hooker yn llifo i lawr y mynydd.

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Mae'r mynydd yn Parc Cenedlaethol Aoraki. Sefydlwyd y parc yn 1953, a gyda Parc Cenedlaethol Westland mae'n un o'r Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r parc yn cynnwys mwy na 140 o gopaon dros 2000 m (6500 tr) a 72 rhewlif, yn gorchuddio 40% o'r 700 km² (173,000 aceri) y parc.

Mae Pentref Mount Cook (neu'r Hermitage) yn canolfan twristiaeth a gwersyll ar gyfer dringo'r mynydd. Mae'r pentref 4 km o ben Rhewlif Tasman, 12 km i'r dde o gopa Aoraki.

Mae Aoraki yn arwyddocáu "Rhwyllwr y Cwmwlau" yn y tafodiaith Kāi Tahu o'r iaith Maorieg. Yn hanesyddol, mae'r enw Māori wedi cael eu sillafu yn y ffurf: Aorangi. Mae'r enw Saesneg yn anrhyddedi Capten James Cook, a oedd y tirfesurydd cyntaf yn Seland Newydd a hwyliodd rownd Seland Newydd yn 1770.

Ceisiadau ar y gopa

[golygu | golygu cod]

Y cais gyntaf gan Ewropewyr i dringo'r gopa oedd gan yr Wyddel, y Parch. W. H. Green a ddwy arweinyddion mynydd o'r Swistir ar yr 2 Mawrth 1882, ond roeddynt yn 50 m yn fyr o'r gopa cywir. Ar 25 Rhagfyr 1894 dringodd y Seland Newyddwyr Tom Fyfe, James (Jack) Clarke a George Graham y gopa trwy taith y Dyffryn Hooker.

Mae'n dal yn sialens o esgyniad, gyda llawer o stormau, eira serth iawn, a dringo iâ i cyrraedd y gopa. Mae'r mynydd yn gopa driplig, gyda'r copa'r gogledd yn uchaf a'r gopau canolog a deheuol yn ychydig is.

Aoraki/Mount Cook o LandSat

Roedd Aoraki/Mount Cook yn 10 m (33 tr) uchaf tan i ddarn mawr o carreg ac iâ syrthio oddi wrth gopa'r gogledd ar 14 Rhagfyr 1991.

Yr Alpau Deheuol

[golygu | golygu cod]

Mae'r Alpau Deheuol wedi cael eu greu ar yr Ynys y De trwy codiad tectoneg a pwysau trwy'r platiau tectoneg y Cefnfor Tawel ac Awstralia-India yn gwrthdaro ar arfordir gorllewinol yr ynys. Mae'r codiad yn achosi Aoraki/Mt Cook codi 10 mm (ychydig llai na hanner modfedd) bob blwyddyn ar gyfartaledd. Er hynny, mae lluoedd erydol hefyd yn siapio'r mynyddoedd. Mae'r tywydd llym o achos y mynydd codi i mewn Gwynt Masnach y Roaring Forties sy'n chwthu rownd y byd tua'r lledred 45° de, i'r dde o Affrica ac Awstralia, felly yr Alpau Deheuol yw'r rhwystr cyntaf mae'r gwyntoedd yn taro ar ôl iddynt gadael De America, fel maent y chwthu i'r dwyrain dros y Cefnfor Deheuol.

Coedwigau a rhewlifau

[golygu | golygu cod]
Golygfa twrsitol o Aoraki/Mount Cook o'r Gwesty'r Hermitage, Pentref Aoraki/Mt Cook

Mae'r cyfanswm glaw flynyddol yn ardal yr iseltir ger y mynydd tua 7.6 m (300 modfeddi). Mae'r cyfanswm mawr hon yn creu coedwigau glaw tymherol yn yr iseltirau arfordirol, a ffynhonnell dibynadwy o eira yn y mynyddoedd i cadw'r rhewlifau yn llifo. Mae'r rhewlifau yn cynnwys y Rhewlifau Tasman a Murchison i'r ddwyrain, a'r rhewlifau lleiaf Hooker a Mueller i'r dde.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Aoraki/Mount Cook National Park. Department of Conservation. Adalwyd ar 10 Mai 2012.

Follow Lee on X/Twitter - Father, Husband, Serial builder creating AI, crypto, games & web tools. We are friends :) AI Will Come To Life!

Check out: eBank.nz (Art Generator) | Netwrck.com (AI Tools) | Text-Generator.io (AI API) | BitBank.nz (Crypto AI) | ReadingTime (Kids Reading) | RewordGame | BigMultiplayerChess | WebFiddle | How.nz | Helix AI Assistant